Gallwch wneud ymofyniad drwy dicio'r eitiau sydd eu hangen ar y ffurlen ail-archebu ar eich prescriptiwn ailadrodd a'i adael yn y blwch neu ei ddanfon drwy'r post. Rydym yn gofyn yn garedig i chi beidio ffonio am brescriptiwn ailadrodd. Mae hyn yn helpu i gadw'r ffôn yn rhydd ar gyfer achosion brys.
Os ydych yn cylchu un o'r fferyllfeydd ar waelon y ffurflen, byddan nhw yn casglu'r prescriptiwn oddi wrthon ni. Rydym yn gofyn i chi gadw at yr un fferyllydd i osgoi dryswch.
Mae prosesu'r prescriptiwn yn cymryd 48 awr felly gwnewch yn siwr eich bod yn archebu o flaen llaw, cyn bod eich tabledu yn rhedeg allan.
Nawr, medrwch hefyd archebu eich prescriptiynnau ailarodd ar-lein. Mae hwn yn safle diogel i sicrhau cyfrinachedd. Ymwelwch â www.patientgpservices.com i gofrestru. (Bydd angen cyfeiriad e-bost eich hun i gofrestru felly os yw'r teulu gyfan eisiau cofrestru am y gwasanaeth hwn bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriadau e-bost unigol. Medrwch greu cyfrif hotmail i gael cyfeiriad e-bost personol). Unwaith rydym wedi derbyn eich cais medrwch archebu eich precriptiynnau ailadrodd heb adael eich cartref. Medrwch ddewis un o'r fferyllfeydd i gasglu eich prescriptiwn oddi wrthom. Mewn 48 awr o'ch cais cewch gasglu eich tabledi o'r fferyllfa.
Byddai'n ddefnyddiol iawn petai'r holl eitemau sydd angen am y mis i ddod yn cael eu archebu yr un pryd.

|