Ashleigh Surgery
Meddygfa Ashleigh
   
01239 621227
Gwybodaeth i Gynhalwyr



GWASANAETH ALLAN
O ORIAU ARFEROL

Os ydych angen
sylw meddygol
ar frys, rhwng
6.30yh
ac 8.30yb,
galwch
08708 509508

Pwy sy'n gynhaliwr ?
Mae cynhaliwr yn berson sydd yn gofalu dros rhywun anabl, boed hynny yn gorfforol neu yn feddyliol yn ddi-dâl. Gall y person sydd angen gofal fod yn berthynas, yn bartner, yn ffrind neu yn gymydog, ac oni am gymorth, ni fuasant yn medru ymdopi â bywyd yn annibynnol.
Beth medrwn ni wneud i'ch cynorthwyo

Rydym yn anelu at greu cofrestr cyflawn o'n cleifion sydd yn gynhalwyr ac sydd wedi cytuno i fod ar y cofrestr. Bydd hyn yn ein galluogi i anfon gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael i chi, a threfnu atgyfeiriad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gwasanaethau gwirfoddol voluntary eraill os ydych yn dymuno.

Os yw ein staff yn medru eich adnabod fel cynhaliwr, medrwn sicrhau eich bod yn derbyn ystyriaeth a chefnogaeth priodol.

Rydym yn medru bod yn hyblyg efo ymgynghoriadau a chael gafael ar brescriptiynnau os yw gadael y person dibynnol yn anodd.

Sut fedrwch chi gofrestru fel cynhaliwr?

Mae ffurflenni ar gael yn y syrgeri. Cewch fwy o wybodaeth drwy e-bost neu siaradwch ag unrhyw aelod o staff.
Mae Margaret Jones, ein Cynorthwywraig Gofal Iechyd hefyd yn Gyd-drefnydd Cynhalwyr y practis. Cewch siarad â hi dros y ffôn, neu drwy gwneud apwyntiad am sgwrs yn un o'i chlinigau.

Beth yw asesiad cynhaliwr ?
Asesiad cynhaliwr yw eich cyfle i ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol am yr hyn a gallai gwneud gofalu yn haws i chi. Mae hi'n asesiad o'ch aghenion chi, nid anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano.
Mae hawl gan bob gynhaliwr gael asesiad. Pan rydych yn cofrestru efo ni fel cynhaliwr, fe fyddwn yn cynnig i chi y cyfle o gael atgyfeiriad. Cyswllt defnyddiol efo gwybodaeth manwl yma
Sut i gael rhagor o wybodaeth

Mae gennym ni hysbysfwrdd Gynhalwyr yn yr ystafell aros efo llawer o wybodaeth a newyddion amdan digwyddiadau lleol.

Mae Prosiect Gweithwyr y Groes Coch Brydeinig yn weithgar yng Ngheredigion. Pan rydych yn cofrestru fel cynhaliwr, fe fyddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y cymorth ymarferol, cyngor, cefnogaeth a'r gweithgareddau sydd ar gael. Gallwch gysylltu â Sally Bates ar 01239 615945 am ragor o wybodaeth.

Ceredigion Carers Emergency Card Gellir defnyddio hwn fel adnabyddiaeth os yw cynhaliwr yn sâl ar frys, neu yn cael damwain. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn cadw'r manylion fel gall cymorth gael ei drefnu ar frys pe bai angen.

Mae Cynhalwyr Cymru yn gyfluniant sydd yn gweithio am well ddêl i Gynhalwyr yng Nghymru. Mae ganddynt wefan efo maylion defnyddiol am gymorth ariannol ac ymarferol a digwyddiadau.
ACE National Mae 'Action for Carers and Employment' yn gweithio i gefnogi'r cynhwysiad o gynhalwyr sydd mewn hyfforddiant neu gwaith.
Mae 'Crossroads' yn gyfluniant gwirfoddol gall ddarparu gofal pan mae angen arnoch egwyl. Mae manylion cyswllt lleol ar gael ar ru gwefan neu o'r meddygfa.
PAVS Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn datblygu gwasanaethau i gynhalwyr yn Sir Benfro. I dderbyn cylchlythyr neu i gael eich gwahodd i ddigwyddiadau cynhalwyr yn y dyfodol, cysylltwch â Sally Davies ar 01437 771196.
Mae 'CareAware' yn wefan ddefnyddiol am gyngor i wneud â ariannu gofal dros berson hŷn.

Cyngor Sir Ceredigion Mae'r gan yr adran ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol wybodaeth cyflawn i gynhalwyr lleol. Gellir lawrlwytho y cylchlythyr 'JIGSAW', o'r wefan honno
The Princess Royal trust for Carers
- the largest provider of comprehensive carers support in the UK. The interactive website has very useful information and a discussion board for carers. .




Medrwch dderbyn
cyngor iechyd
cyffredinol 24 awr
y dydd trwy alw



Neu ymwelwch â
Galw Iechyd
Cymru Arlein




 


PWYSIG

System apwyntiadau newydd yn cychwyn Dydd Llun y 4ydd o Fedi
Rhagor o fanylion yma



[HAFAN] [Y DOCTORIAID] [STAFF] [NEWYDDION] [SUT FEDRA I][CLINIGAU] [ ROTAU Y MEDDYGON] [LLEOLIAD] [LINCIAU] [CYSYLLTWCH A NI]
[ENGLISH PAGES] [YMORTHODIAD]